Arbrofwch gyda pholyhedronau a theils i greu celf cinemateg liwgar. Mae Polyhedron yn caniatáu i chi greu polyhedronau traddodiadol ac mae Teils yn llyfnhau eich polyhedronau yn deils ar y sffêr, ar y plân Ewclidaidd neu ar y plân hyperbolig. Addurnwch eich gwaith gyda lluniau o'ch llyfrgell luniau, delweddau newydd o'ch camera, neu wrth ddefnyddio lliwiau. Gallwch newid unrhyw bolyhedron neu deilsen yn unrhyw un arall ym mhob un grŵp cymesuredd. Er enghraifft, gallwch droi dodecahedron yn icosahedron, gan gadarnhau fod ganddynt yr un cymesureddau.
Daw KaleidoTile gyda thiwtorial Teils a chymesuredd.
Cysylltwch â Jeff Weeks.
Gyda diolch i Gareth Roberts am y cyfieithiad Cymraeg
Edrychwch ar y dudalen hon yn yr ieithoedd canlynol:
Cymraeg
Deutsch
English
Français
Italiano
日本語
한국어
Português
简体中文
繁體中文
[Yn ôl i hafan Geometry Games home.]